Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Llun, 5 Rhagfyr 2022
Amser:
13.30 -
18.28
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13067
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Alun Davies AS James Evans AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Dr Robert Parry, Llywodraeth Cymru Jenny Rathbone AS Sioned Williams AS Chris Jennings, Cyfarwyddwr Gweithredol, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru Lisa Marie Knight, Llywodraeth Cymru Geraint Davies, Y Weinyddiaeth Gyfiawnder |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Elizabeth Foster (Dirprwy Glerc) Sara Moran (Ymchwilydd) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon. Roedd Jennie Rathbone AS a Sioned Williams AS yn bresennol o’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar gyfer eitem 2.
2 Sesiwn dystiolaeth gyda’r Arglwydd Bellamy CB, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder: Cyfiawnder yng Nghymru
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Arglwydd Bellamy CB, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder yn Llywodraeth y DU.
3 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
3.1 SL(6)286 – Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
3.2 SL(6)290 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am eglurhad pellach.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol
3.3 SL(6)291 - Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes
4.1 SL(6)280 - Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Arbed a Throsiannol) 2022
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
4.2 SL(6)282 – Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
5 Offerynnau statudol y mae angen i’r Senedd gydsynio â hwy (Memoranda Cydsyniad Offeryn Statudol)
5.1 SICM(6)2 - Rheoliadau Anifeiliaid ac Iechyd Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Planhigion ac Iechyd Planhigion (Diwygio) 2022
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol Llywodraeth Cymru a chytunodd i ystyried adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
6 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
6.1 Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2022 (“Rheoliadau 2022”).
Nododd y Pwyllgor y datganiad gan y Prif Weinidog.
6.2 Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cyfarfod Cyngor y Gweinidogion Addysg
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
6.3 Llythyr gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
7 Papurau i'w nodi
Nid oedd dim papurau i’w nodi yn y cyfarfod hwn.
8 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 9, 10, 11 ac 13.
Derbyniwyd y cynnig.
9 Sesiwn dystiolaeth gyda’r Arglwydd Bellamy CB, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder: Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd gan yr Arglwydd Bellamy CB, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder.
10 Y flaenragalen waith
Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â’i flaenraglen waith.
11 Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio)
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
12 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio): Sesiwn dystiolaeth gyda Gweinidogion
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol.
13 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio): Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd gan y Cwnsler Cyffredinol, a chytunodd i ysgrifennu ato i ofyn am ragor o wybodaeth.